Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Sir Fynwy

Pwnc

Rheoli Ystadau ac amgylchedd/ardaloedd cyffredin/cloddiau a ffensys a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202103621

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Gymdeithas yn codi tâl arno am wasanaethau glanhau nad oedd yn eu derbyn yn rheolaidd. Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi ei hysbysu’n iawn o broses gwynion y Gymdeithas a bod y camau a gymrodd y Gymdeithas wedi achosi anhwylustod iddo o ganlyniad.
O ganlyniad i’r pryderon a gafodd eu nodi ac i setlo cwyn Mr X, mae’r Gymdeithas wedi cytuno, erbyn 18 Hydref 2021, i:
a) Ymddiheuro wrth Mr X am y cam-wybodaeth am y weithdrefn gwynion;
b) Rhoi ymateb cwyn Cam 2 i Mr X;
c) Talu £50 i Mr X am yr amser a’r drafferth yn codi ei bryderon.