Dyddiad yr Adroddiad

11/30/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Rheoli Adeiliadu

Cyfeirnod Achos

202105537

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor yn caniatáu i siop tecawê agor mewn lleoliad anniogel ac anaddas.

Wrth ystyried y gŵyn hon, nododd yr Ombwdsmon fod Mr X wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Cyngor ym mis Ebrill 2021 ond nid oedd wedi derbyn ymateb cychwynnol (Cam 1) i’w gŵyn. Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i uwchgyfeirio’r gŵyn i gam nesaf y weithdrefn, ac i gyhoeddi ymateb llawn Cam 2 i’r gŵyn erbyn 23 Rhagfyr ar yr hwyraf.