Dyddiad yr Adroddiad

10/01/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Parcio (gan gynnwys gorfodi a beilïaid)

Cyfeirnod Achos

202102833

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Sir y Drenewydd wedi cydnabod ei chais am le parcio anabl a bod oedi wedi bod cyn ymateb i lythyrau a anfonwyd ganddi wedyn, gan gynnwys llythyr o gŵyn. Dywedodd Ms A, yn groes i’r hyn a ddywedodd y Cyngor fod yr Adran Briffyrdd wedi ysgrifennu ati, nad oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan yr adran honno.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chydnabod ac ymateb yn brydlon i lythyrau Ms A ac na allai egluro beth a ddigwyddodd iddynt dros gyfnod o fisoedd lawer. Roedd tystiolaeth bod yr Adran Briffyrdd wedi drafftio llythyr at Ms A ond nid oedd yn glir a anfonwyd y llythyr. Casglodd yr Ombwdsmon fod diffyg gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor am y broses o wneud cais am le parcio anabl. Roedd methiant y Cyngor i ymateb i Ms A yn brydlon wedi arwain at flwyddyn o oedi cyn cael cyfle i ystyried ei chais. Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Cyngor a gytunodd i’r canlynol: o fewn 10 diwrnod gwaith ei fod yn ymddiheuro wrth Ms A, talu iawndal o £125 iddi ac esbonio’n glir iddi sut a phryd y gall gyflwyno cais, ac o fewn un mis yn cyhoeddi gwybodaeth barhaol ar ei wefan am y broses o wneud cais am le parcio anabl, ac o fewn deufis yn cynnal adolygiad o’i system bost fewnol. Os bydd cais Ms A yn y dyfodol yn llwyddo, cytunodd y Cyngor y byddai o fewn un mis i’w benderfyniad yn ystyried talu iawndal pellach i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd ac effaith yr oedi gyda darparu bae parcio anabl.