Dyddiad yr Adroddiad

02/19/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Meddyginiaeth > Dosbarthu presgripsiynau

Cyfeirnod Achos

202106456

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli ei phoen cronig dros y flwyddyn ddiwethaf ac am y broblem oedd heb ei datrys o drefnu presgripsiwn rheolaidd ar gyfer patshys Lidocen, sydd wedi achosi poen iddi ac wedi effeithio ar ansawdd ei bywyd. Roedd Mrs X wedi cwyno wrth y Bwrdd Iechyd ond nid oedd wedi cael ymateb i’w phryderon.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd camau i ddatrys cwyn Mrs X, sef:

• Rhoi ymateb i’w chwyn i Mrs X er mwyn cadarnhau’r cynllun ar gyfer y dyfodol o ran patshys Lidocen, rhoi’r manylion angenrheidiol i Mrs X am y cynllun ac ymddiheuro iddi am y dryswch a’r oedi y mae hi wedi’i brofi o ran ei phresgripsiwn a’i hapwyntiad â’i Hymgynghorydd.

• Cadarnhau apwyntiad ar gyfer Mrs X â’i Hymgynghorydd.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai’r camau yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i’w cymryd yn datrys y gŵyn.