Dyddiad yr Adroddiad

07/28/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202102361

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am yr oedi cyn i’r Cyngor ymateb i’w gŵyn a’r cais Rhyddid Gwybodaeth, a gyflwynwyd iddo ym mis Mawrth a mis Ebrill 2021 yn y drefn honno.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor, o fewn 20 diwrnod gwaith, ddarparu ymateb i gŵyn Mr X a diweddariad mewn perthynas â’i gais Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn setliad priodol.