Dyddiad yr Adroddiad

11/14/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202204132

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn am y gwasanaethau cymdeithasol roedd wedi’i chyflwyno ym mis Ionawr 2022.

Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi anfon ymateb cychwynnol ond nad oedd wedi delio â phryderon Ms X yn unol â phroses gwyno gwasanaethau cymdeithasol a’i fod yn hytrach wedi cau’r achos. I setlo’r gŵyn gofynnodd i’r Cyngor gymryd y camau canlynol:

a) Cysylltu â Ms X o fewn 15 diwrnod gwaith i ailgychwyn y broses gwyno statudol.

b) Ymddiheuro i Ms X am gau ei chŵyn.

c) Cynnig iawndal o £125 i Ms X am ei hamser a’i thrafferth i fynd ati i gwyno i’r swyddfa hon, ac am yr oedi a fu cyn rhoi sylw i’w phryderon o dan y broses gwyno statudol.