Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202002681

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr W fod y Cyngor wedi methu ag ystyried, cymryd camau a symud ymlaen yn brydlon â Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO) ar ei gyfer ef a’i wraig ar ôl i’w hwyres, R, symud i fod yn eu gofal ym mis Rhagfyr 2015. Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi ystyried yn briodol a ddylid cynnig cymorth ariannol i Mr a Mrs W ar unrhyw adeg cyn dyfarnu’r SGO y mis Chwefror 2020.

Casglodd yr Ombwdsmon fod methiannau cyfathrebu wedi bod gyda Mr a Mrs W ynghylch goblygiadau SGO a’r broses. Roedd oedi hefyd wedi bod, ar ôl i’r Cyngor gael gwybod bod Mr W yn bwriadu gwneud cais am SGO, cyn dechrau’r broses a’r adroddiad perthnasol. Fodd bynnag, ar y cyfan, roedd yr adroddiad wedi’i gwblhau’n brydlon unwaith y dechreuwyd arno. Er bod y broses yna wedi cael ei gohirio hanner ffordd trwodd, roedd hyn am resymau y tu allan i reolaeth y Cyngor ac roedd y broses wedi symud ymlaen yn briodol ar ôl ail-ddechrau. Penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn yr elfen hon o’r gŵyn yn rhannol.

Casglodd yr Ombwdsmon fod ystyriaeth foddhaol wedi’i rhoi i amgylchiadau ariannol Mr a Mrs W i ddechrau ond nad oedd y Cyngor wedi ystyried yn briodol a ddylid cynnig cymorth ariannol i Mr a Mrs W unwaith i broses yr SGO ail-ddechrau. Roedd wedi methu ag ystyried tystiolaeth bod sefyllfa Mr a Mrs W wedi newid a bod hyn yn achosi trafferthion ariannol. Yn olaf, er i asesiad gael ei wneud yn cadarnhau bod angen cymorth ariannol, nid oedd wedi ystyried yn llawn yr opsiynau priodol ar gyfer pryd y gallai ac y dylai’r taliadau ddechrau. Roedd yr Ombwdsmon wedi derbyn yr elfen hon o’r gŵyn.

Cytunodd y Cyngor i gymryd camau i wella ei gyfathrebu a’r wybodaeth sydd ar gael i deuluoedd am orchmynion SGO. Cytunodd hefyd i ymddiheuro wrth Mr a Mrs W, ail-ystyried pryd y dylai’r taliadau cymorth ariannol fod wedi dechrau ac i gymryd camau priodol i gywiro unrhyw anghysondeb rhwng beth ddylai fod wedi cael ei dalu, a beth a dderbyniodd Mr a Mrs W.