Dyddiad yr Adroddiad

08/31/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Maethu a Phlant Eraill sy'n Derbyn Gofal

Cyfeirnod Achos

201906202

Canlyniad

Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus

Cwynodd Ms F ar ei rhan ei hun ac ar ran person ifanc, Ms G. Cadarnhaodd Ms G wrth yr Ombwdsmon ei bod yn cefnogi’r gŵyn. Cwynodd Ms F nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rheoli’n iawn y trefniant lle’r oedd Ms G yn byw gyda hi drwy egluro ei statws fel Gofalwr Maeth neu roi unrhyw beth yn ei le i gynnal y trefniant hwnnw, fel y Cynllun “Pan Fydda i’n Barod” (WIR) (mae hyn yn cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol). Cwynodd nad oedd y Cyngor wedi rhoi digon o gefnogaeth a chymorth i Ms G ar ôl iddi adael ei gofal. Cwynodd hefyd ei bod yn anfodlon â’r ffordd yr oedd yn delio â chwynion.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd y Cyngor wedi egluro statws Ms F fel Gofalwr Maeth ac nad oedd wedi bod yn rhesymol i’r Cyngor ddweud bod lleoliad Ms F gyda Ms F yn un preifat am ei fod wedi bod yn rhan ohono. Canfu fod y gefnogaeth a roddwyd i gynnal y trefniant a ddefnyddiodd Ms G i fyw gyda Ms F wedi bod yn annigonol, ar ôl pen-blwydd Ms G yn 18 oed, oherwydd bregusrwydd parhaus Ms G, ei statws gadael gofal a’r egwyddorion ymarfer y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth ymgysylltu â phobl ifanc sy’n gadael gofal a gwneud unrhyw benderfyniad yn eu cylch. Dywedodd fod y teulu wedi cael trafferth ariannol o ganlyniad a bod y straen ariannol hwnnw wedi rhoi pwysau y gellid ei osgoi ar berthynas Ms G a Ms F. Dyfarnodd fod cwyn Ms F wedi’i chyfiawnhau. Penderfynodd y dylai’r Cyngor fod wedi gwneud trefniant WIR ar gyfer Ms F a Ms G. Nododd fod cynllun Llwybr y Cyngor (cynllunio ar gyfer person ifanc yn gadael gofal a phontio i fod yn oedolyn) a dogfennau cysylltiedig wedi bod yn ddiffygiol. Canfu fod y gefnogaeth a’r cymorth a roddwyd i Ms G ar ôl iddi adael gofal y Cyngor, o ran ei threfniant byw, wedi bod yn annigonol. Dywedodd fod methiant y Cyngor i gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymadawiad Ms G o ofal yn golygu nad oedd wedi cael cyfle i gael trefniant byw trosiannol gydag adnoddau priodol a allai fod wedi gwella ei chyfleoedd bywyd. Nododd hefyd fod Ms F wedi dioddef caledi ariannol y gellid bod wedi’i osgoi. Dyfarnodd fod cwyn Ms F wedi’i chyfiawnhau. Canfu fod y Cyngor, wrth ymateb i gŵyn Ms F, wedi methu â chadw at ganllawiau ynghylch delio â chwynion sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd nad oedd yr ymchwiliad i gŵyn Ms F, a gwblhawyd ar ran y Cyngor, wedi’i gydbwyso a’i fod yn rhoi’r argraff o fod yn unochrog. Dyfarnodd fod cwyn Ms F wedi’i chyfiawnhau. Roedd hefyd o’r farn nad oedd y Cyngor wedi dangos ei fod wedi rhoi sylw dyledus i hawl Ms F a Ms G i barchu eu bywyd preifat a theuluol, eu cartref a’u gohebiaeth (Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol 1998) wrth roi sylw i anghenion gofal Ms G ac ymateb i gŵyn Ms F.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor ysgrifennu at Ms F a Ms G i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd. Gofynnodd iddo hefyd dalu £8,500 yr un i Ms F a Ms G i gydnabod yr effaith a gafodd y methiannau hynny arnynt. Argymhellodd y dylai adolygu a diwygio ei ddogfennau cynllunio Llwybr yng ngoleuni ei ganfyddiadau a sylwadau ei Gynghorydd Proffesiynol. Gofynnodd iddo ddarparu hyfforddiant cynllunio Llwybr, a oedd yn rhoi sylw i’w gyfrifoldebau o dan y fframwaith statudol, ystyriaethau hawliau dynol a’u goblygiadau i ymarfer wrth weithio gyda phobl ifanc sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, ei ofal yn ddiweddar, ar gyfer staff perthnasol. Argymhellodd, o ran delio â chwynion, y dylai gynnal adolygiad o’i ddull o gomisiynu Ymchwilwyr Annibynnol a rheoli ansawdd wrth graffu ar adroddiadau a gomisiynir. Cytunodd y Cyngor i weithredu’r argymhellion hyn.