Dyddiad yr Adroddiad

05/09/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Llifogydd a difrod llifogydd

Cyfeirnod Achos

202102459

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi methu â chymryd cyfrifoldeb am ddifrod a achoswyd i’r eiddo o ganlyniad i waith draenio a wnaeth i leddfu risg o lifogydd mewnol i eiddo wrth ymyl cyfeiriad cartref Mr A.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi penodi Cwmni Annibynnol i ymweld â’r safle a pharatoi adroddiad i ganfod ai ei gynllun lliniaru llifogydd a oedd yn gyfrifol am y llifogydd yng ngardd Mr A. Canfu hefyd fod y Cyngor wedi cynnig i Mr A y cyfle i drafod yr adroddiad gyda’r Cwmni Annibynnol, ond oherwydd pandemig Covid-19, ni chynhaliwyd y cyfarfod.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Cyngor i gynnig i Mr A gyfle pellach i drafod y dŵr daear cynyddol yn ei ardd gyda’r Cwmni Annibynnol, cyn pen 20 diwrnod.