Dyddiad yr Adroddiad

11/21/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204534

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X ei bod wedi cyflwyno cwyn i’r Ymddiriedolaeth ym mis Mai 2022 yn ymwneud ag oedi cyn anfon Ambiwlans. Ni chyrhaeddodd yr Ambiwlans am 43 munud, a dioddefodd ei gŵr ataliad y galon, ac yn anffodus bu farw yn ei gartref. Er iddi gael dau lythyr ateb dros dro gan yr Ymddiriedolaeth, nid oedd Ms X wedi cael ymateb llawn i’w chŵyn gan yr Ymddiriedolaeth.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi roedd Ms X wedi’i brofi cyn cael ymateb i’w chŵyn, ac roedd gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth wedi achosi anghyfleustra iddi.
O ganlyniad cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Ymddiriedolaeth a chytunodd i ymddiheuro i Ms X, rhoi eglurhad am yr oedi ac ymateb yn llawn i’r gŵyn neu ddangos sut y byddai’n gweithredu ar yr achos, i setlo cwyn Ms X ac yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd yr Ymddiriedolaeth i gyflawni’r camau hyn o fewn 3 wythnos i ddyddiad y Panel Achosion Cymhleth.