Dyddiad yr Adroddiad

11/09/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204522

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am nad oedd wedi cael dyddiad ar gyfer cyfarfod â’r Ymddiriedolaeth ynglŷn â’r pryderon a oedd ganddo am yr oedi a fu cyn i ambiwlans gyrraedd at ei fam.

Canfu’r Ombwdsmon er bod yr Ymddiriedolaeth wedi egluro’r rhesymau am yr oedi, nid oedd yr Ymddiriedolaeth wedi trefnu dyddiad ar gyfer y cyfarfod â Mr X.

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i wneud y trefniadau angenrheidiol i drefnu cyfarfod i drafod pryderon Mr X o fewn 4 wythnos, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio i’r mater.