Dyddiad yr Adroddiad

06/23/2022

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201456

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd y Feddygfa wedi delio â’i chŵyn am agwedd nyrs yn ei hapwyntiad i gael prawf ceg y groth.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi ymateb i gŵyn gychwynnol Mrs X, ond ei bod wedi methu ag ymateb i lythyr dilynol Mrs X dyddiedig 23 Mai 2022. Cytunodd y Feddygfa i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mrs X erbyn 19 Gorffennaf 2022, yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:

a) Darparu ymateb i lythyr Mrs X dyddiedig 23 Mai 2022

b) Adolygu’r broses delio â chwynion a defnyddio hyn fel ffordd o ddysgu.