Dyddiad yr Adroddiad

07/25/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202201578

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X iddo gael ei gadw yn yr Ysbyty am 5 wythnos pan na ddylai fod wedi bod yno. Cwynodd Mr X hefyd, o ganlyniad i gael ei gadw’n anghywir, ei fod wedi dod ar draws problemau iechyd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb ffurfiol i’w bryderon eto gan y Bwrdd Iechyd, a chysylltodd â’r Bwrdd. Fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X, cytunodd y Bwrdd Iechyd i anfon llythyr ymddiheuro at Mr X am yr oedi cyn ymateb i’w bryderon, erbyn 30 Gorffennaf 2022. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd y byddai’n rhoi ymateb ffurfiol i Mr X erbyn 9 Medi 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.