Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202107853

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddo gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd ei fod wedi ei ryddhau’n amhriodol a heb ddweud wrtho fod hynny’n digwydd. Cwynodd Mr X hefyd am ddiffyg cefnogaeth gyffredinol, diagnosis anghywir a methiant i ddarparu gofal a thriniaeth ddigonol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried y cwynion yn llawn o dan ei bolisi cwynion. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i wneud hynny ac ymateb i Mr X yn unol â hynny.