Dyddiad yr Adroddiad

04/07/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202005549

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am fethiant ar ran y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i gŵyn a gyflwynwyd iddo (am y gofal a gafodd ei mam mewn ysbyty) flwyddyn ynghynt.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd y byddai (o fewn 10 diwrnod gwaith) yn rhoi ymddiheuriad i Ms X, yn cynnig iawndal am yr amser a’r drafferth o ddilyn y gŵyn ac (o fewn 20 diwrnod gwaith) yn darparu ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr i’r gŵyn.