Dyddiad yr Adroddiad

06/07/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202200211

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am agweddau ar ofal a thriniaeth a ddarparwyd iddi yn benodol mewn perthynas â’r trallod a’r boen a achoswyd gan ganiwla, a phryderon ynghylch cael ei throsglwyddo mewn cerbyd heb staff a oedd wedi’u hyfforddi’n feddygol. Yn ystod asesiad yr Ombwdsmon, roedd yn amlwg bod diffyg ymateb i rai cwestiynau a ofynnwyd gan eiriolwr Mrs X.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig i Mrs X (o fewn 3 wythnos) gan roi sylw i’r cwestiynau heb eu hateb. Dylai hefyd ymddiheuro am yr oedi a chynnig taliad o £250 i Mrs X i gydnabod hyn.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.