Dyddiad yr Adroddiad

02/25/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202107149

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X wrth y Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2021 ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar wraig. Adeg cysylltu â’r Ombwdsmon ym mis Ionawr 2022, nid oedd Mr X wedi cael ymateb i’w gŵyn o hyd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd gan ei fod yn pryderu ynghylch yr amser yr oedd yn ei gymryd i gwblhau ei ymchwiliad. Dywedodd fod y mater yn gymhleth ac yn cwmpasu mwy na 6 gwasanaeth gan 2 fwrdd iechyd gwahanol. Roedd y cymhlethdod, ynghyd â’r pwysau ychwanegol yr oedd y byrddau iechyd yn ei wynebu, yn golygu na allai gwblhau ei ymchwiliad fel y byddai wedi disgwyl.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r mater a chyhoeddi ei ymateb Gweithio i Wella erbyn 8 Ebrill 2022 fan bellaf.