Dyddiad yr Adroddiad

04/07/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202005663

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd 13 mis ynghynt.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi, i gynnig iawndal o £250, i gydnabod yr amser a thrafferth ychwanegol a gafodd Miss X wrth ddilyn ei chwyn, ac i ymateb yn ffurfiol i’w chwyn o fewn 20 diwrnod gwaith.