Dyddiad yr Adroddiad

08/16/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202202834

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X, er iddi gyflwyno cwyn ffurfiol ym mis Ionawr 2021 am bryderon yn ymwneud â 2020, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w phryderon.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mrs X wedi cael ymateb i’w phryderon eto ac roedd hefyd yn pryderu am hyd yr amser y bu Mrs X yn aros am ymateb. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, penderfynodd yr Ombwdsmon gysylltu â’r Bwrdd Iechyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi taliad amser a thrafferth o £250 i Mrs X, a hefyd i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig ac ymateb ffurfiol i Mrs X erbyn 12 Medi 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mrs X.