Dyddiad yr Adroddiad

07/11/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201661

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chwyn ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w mam. Roedd hi wedi gwneud y gŵyn ym mis Gorffennaf 2021.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gallu hwyluso cyfarfod gyda Ms X ac nad oedd chwaith wedi rhoi ymateb ysgrifenedig iddi. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Ms X:

Erbyn 29 Gorffennaf 2022

a) Ymddiheuro i Ms X am yr oedi sylweddol wrth ymateb i’w chwyn

b) Rhoi ymateb ysgrifenedig i gŵyn Ms X.