Dyddiad yr Adroddiad

04/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202005776

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am achosion o oedi gan y Bwrdd Iechyd wrth ddelio â’i gŵyn am fethiant i wneud diagnosis am retina rhydd yn ei lygad chwith.
Cafodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd ond mai un o’r rhesymau am hynny oedd bod y Bwrdd Iechyd yn ystyried a ellid cynnig unrhyw iawn o dan ei weithdrefn cwynion Gweithio i Wella.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i wneud y canlynol:
1) Darparu hysbysiad ysgrifenedig i Mr May am ei benderfyniad ar wneud iawn gan ddilyn y cyngor y mae’n ei gael gan arbenigwr meddygol annibynnol.
Cwblheir hyn o fewn 3 mis ar ôl dyddiad y llythyr hwn.
Mae’r Ombwdsmon yn credu y bydd hyn yn fodd i ddatrys y gŵyn hon.