Dyddiad yr Adroddiad

12/17/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202106062

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod y gofal gan y Bwrdd Iechyd yn is na’r safon a bod y Bwrdd Iechyd wedi torri ei ddyletswydd gofal tuag at ei merch. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w ebyst dilynol a chais i gael cyfarfod.

I setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol erbyn 24 Ionawr 2022: –
a) Ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’r ebyst
b) Rhoi ymateb i’r cwynion dilynol
c) Trefnu cyfarfod