Dyddiad yr Adroddiad

10/07/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202003088

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms T am agweddau ar y gofal a dderbyniodd ei mam, Mrs A, yn Ysbyty Gwynedd yn Ebrill / Mai 2020. Yn benodol, cwynodd Ms T fod:
a) Rhagofalon anfoddhaol wedi eu cymryd i ddiogelu Mrs A rhag cael Covid-19 (“Covid”) yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty.
b) Mrs A wedi cael ei rhyddhau’n amhriodol o’r ysbyty ac wedi cael dychwelyd adref i fyw gyda’i gŵr (“Mr A”) a oedd hefyd yn fregus ac a oedd wedi cael Covid yn dilyn hynny.
c) Diffygion wrth gadw cofnodion wedi cyfrannu at fethiant y Bwrdd Iechyd i ystyried pa mor fregus oedd Mr A wrth ryddhau Mrs A o’r ysbyty.
Casglodd yr Ombwdsmon, er ei bod yn debygol bod Mrs A wedi cael Covid yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, nad oedd yn bosib atal cleifion yn llwyr rhag ei gael. Ni dderbyniodd y rhan yma o’r gŵyn. Fodd bynnag, casglodd fod Mrs A wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty heb wneud asesiad ffurfiol o’i hanghenion, a heb asesu pa mor fregus oedd Mr A; er na allai gasglu mai hyn oedd yn llwyr gyfrifol am y ffaith bod Mr A wedi cael Covid, roedd teulu Mrs A wedi eu gadael gyda’r ansicrwydd o beidio â gwybod ai hyn a ddigwyddodd. Penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn y rhan yma o’r gŵyn. Roedd y cofnodion yn cynnwys digon o wybodaeth i dynnu sylw’r Bwrdd Iechyd at ba mor fregus oedd Mr A ac felly ni dderbyniodd yr Ombwdsmon y gŵyn am gadw cofnodion.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Ms T am y methiannau ac i dalu £1000 iddi i gydnabod y trallod a achoswyd, a hefyd i atgoffa’r staff o bwysigrwydd cynllunio i ryddhau claf a chyfathrebu â chleifion / eu teuluoedd.