Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203492

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w gŵyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar dad pan oedd yn glaf mewnol.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd i ymateb i gŵyn Mr X erbyn 29 Hydref 2022. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi yn ei ymateb, cyhoeddi taliad amser a thrafferth o £100, a darparu diweddariadau misol nes y bydd y llythyr Rheoliad 33 Terfynol wedi’i gyhoeddi.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad digonol yn lle ymchwilio i’r gŵyn.