Dyddiad yr Adroddiad

10/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203639

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd wedi cael ymateb gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn y gŵyn a wnaeth ym mis Hydref 2021 ynghylch y driniaeth a gafodd yn yr ysbyty ar gyfer triniaeth clozapoine.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X o fewn 6 wythnos, fel dewis arall yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddo:

a) Ysgrifennu at Mr X i roi esboniad ac ymddiheuriad am y methiant i ddarparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon

b) Darparu ymddiheuriad pellach i Mr X am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn

c) Cynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau nad effeithiwyd ar unrhyw achwynwyr eraill

d) Talu £125 am amser a thrafferth i Mr X am orfod codi ei gŵyn gyda’r Bwrdd Iechyd a’r Ombwdsmon

e) Anfon ymateb i gŵyn.