Dyddiad yr Adroddiad

09/30/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204144

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chwyn yn unol â chytundeb blaenorol gyda swyddfa’r Ombwdsmon (Cyf. 202200979). Dylai’r ymateb i’r gŵyn fod wedi cael ei gyhoeddi i Miss A erbyn 17 Awst 2022.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i gwblhau’r camau canlynol erbyn 28 Hydref 2022:
a) Ymddiheuro wrth Miss A am yr oedi pellach o ran darparu ymateb i’w chŵyn.
b) Gwneud taliad amser a thrafferth gwerth £100 i Miss A i gydnabod yr oedi pellach a gorfod ail-gysylltu â swyddfa’r Ombwdsman.
c) Cyhoeddi ymateb i’w chŵyn.

Cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Miss A ar 27 Medi 2022. Derbyniodd yr Ombwdsman hwn, a’r camau gweithredu eraill a nodwyd uchod, fel dewis amgen i gyhoeddi Adroddiad Arbennig.