Dyddiad yr Adroddiad

09/12/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202202975

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd hi wedi derbyn ymateb gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn ei chŵyn a wnaeth ym mis Chwefror 2022 am y methiant i roi cefnogaeth iddi ar gyfer ei hiechyd meddwl.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol wrth setlo cwyn Miss X erbyn 10 Hydref 2022, fel dewis amgen i’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad:
a) Ysgrifennu at Miss X i esbonio ac ymddiheuro am fethu â chofnodi ei phryderon yn unol â’r broses ‘Putting Things Right’.
b) Cyhoeddi ymateb i’w chŵyn.