Dyddiad yr Adroddiad

08/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201986

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a ddarparwyd i’w ddiweddar wraig yn Ysbyty Maelor Wrecsam ychydig cyn ei marwolaeth drist ym mis Mai 2021. Er bod Mr A wedi cael ymateb ffurfiol i gŵyn gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’i bryderon ynghylch gofal ei ddiweddar wraig, dywedodd wrth swyddfa’r Ombwdsmon fod ganddo gwestiynau ychwanegol nad oedd wedi’u hateb yr oedd am i’r Bwrdd Iechyd ymateb iddynt ynghylch y gofal a gafodd Mrs A.

Er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i’w gwestiynau ychwanegol ynghylch gofal ei ddiweddar wraig o fewn 3 mis.