Dyddiad yr Adroddiad

12/14/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202105068

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B am y ffordd y deliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) â’i chŵyn am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad. Dywedodd ei bod wedi canfod ei hun mewn sefyllfa waeth nag o’r blaen cyn cyflwyno’r gŵyn ar ôl derbyn gymaint o ymatebion anghyflawn, anghyson ac anghywir gan y Bwrdd Iechyd.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi anfon chwe llythyr ymateb at Ms B oedd yn cynnwys gwybodaeth anghyson ac anghytûn. Casglodd hefyd fod pob ymateb yn dilyn yr ymateb cyntaf wedi’i ysgogi ar ôl i Ms B gwestiynu gwybodaeth anghyson ac anghytûn yn yr ymatebion a dderbyniodd wedyn. Casglodd hefyd, hyd yn oed ar ôl derbyn chwe ymateb, fod gan Ms B gwestiynau heb eu hateb o hyd.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i ymddiheuro wrth Ms B a thalu iawndal o £250 i gydnabod y ffordd wael y deliodd â’i chŵyn.