Dyddiad yr Adroddiad

12/14/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202105948

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn ymateb i’w chŵyn am y driniaeth a dderbyniodd ym mis Tachwedd 2020.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â diweddaru Mrs H yn briodol yn ystod ei ymchwiliad i’w chŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd felly i wneud y canlynol o fewn pedair wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon:
a) Ymddiheuro wrth Mrs H am yr oedi’n ymateb i’w chŵyn ac am fethu â’i diweddaru’n briodol.
b) Rhoi ymateb i gŵyn Mrs H.
c) Talu £50 i Mrs H am ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon.