Dyddiad yr Adroddiad

11/18/2021

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202104047

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar fam. Anfonodd ei chŵyn ar ffurf llythyr ym mis Tachwedd 2020. Cwynodd Mrs X i’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb.

Yn dilyn trafodaeth gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i Mrs X, gan gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny o fewn 10 diwrnod gwaith o benderfyniad yr Ombwdsmon.