Dyddiad yr Adroddiad

08/13/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202102805

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd cwyn Mr X yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd mewn perthynas â phoenau yn y frest a gafodd ym mis Gorffennaf 2020. Cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu ymateb ysgrifenedig i’w gŵyn ffurfiol yn unol â Rheoliadau Gweithio i Wella 2011.

Ar ôl trafod gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’r pryderon a godwyd gan Mr X. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon.