Dyddiad yr Adroddiad

10/20/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202202210

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y diffyg cyfathrebu a’r diweddariadau a gafwyd gan y Bwrdd Iechyd ynghylch gofal a thriniaeth ei dad.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus o nodi nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu â Mr X yn dilyn llythyr ateb dros dro dyddiedig 29 Tachwedd 2021.
Er mwyn datrys y gŵyn hon, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am fethu cyfathrebu’n briodol â Mr X yn ystod ei ymchwiliad, i wneud taliad o £250 i Mr X i gydnabod y methiant hwnnw ac i ddarparu llythyrau diweddaru misol i Mr X hyd nes y gellid rhoi dyddiad ar gyfer gwrandawiad y Panel Gwneud Iawn.