Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203939

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S fod methiannau cyfathrebu wedi bod ynghylch ei phryderon, ac nad oedd wedi cael unrhyw ohebiaeth gan y Bwrdd Iechyd ers mis Gorffennaf 2022. Cwynodd Ms S ymhellach, er iddi gysylltu â’r Bwrdd Iechyd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, nad oedd unrhyw ymateb wedi’i roi hyd yma.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms S wedi cael ymateb i’w phryderon eto ac wedi cysylltu â’r Bwrdd Iechyd. Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ac ymateb ffurfiol i Ms S o fewn 30 diwrnod gwaith.