Dyddiad yr Adroddiad

08/16/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202203084

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i gŵyn a wnaeth yn unol â chytundeb yr oedd wedi’i gyrraedd yn flaenorol gyda’r Ombwdsmon. Roedd Mrs B wedi gwneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2021. Roedd y cytundeb y daethpwyd iddo gyda’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol bod y Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi ymateb i’r gŵyn erbyn 30 Mehefin 2022. Ni wnaeth hyn.

Felly cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i gwblhau’r camau gweithredu canlynol erbyn 31 Awst 2022:

a) Anfon ymddiheuriad pellach i Mrs B am ei fethiant i ddarparu’r ymateb i’r gŵyn fel y cytunwyd.

b) Cynnig taliad amser a thrafferth o £250 i Mrs B i gydnabod yr oedi sylweddol i dderbyn ymateb gan y Bwrdd Iechyd a’r amser a dreuliodd Mrs B yn cyflwyno sylwadau pellach i’r swyddfa hon.

c) Cyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn.

Derbyniodd yr Ombwdsmon yr uchod fel dewis amgen i gyhoeddi Adroddiad Arbennig.