Dyddiad yr Adroddiad

06/25/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202101496

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B am faint o amser yr oedd yn ei gymryd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) ymchwilio i gŵyn a gyflwynwyd ganddi 12 mis yn ôl.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu am yr oedi a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i gymryd y camau canlynol:

a) Ymateb yn llawn o fewn pedair wythnos
b) Ymddiheuro am yr oedi a chynnig eglurhad
c) Talu swm o £100 i Mrs B am yr anghyfleustra a achoswyd gan yr oedi