Dyddiad yr Adroddiad

07/06/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201322

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn, a gyflwynwyd iddynt ar 6 Gorffennaf 2021.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Ms A yn unol â Rheoliadau’r GIG (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni Cam) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau”).

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A a darparu cadarnhad ysgrifenedig y byddai ei chwyn yn cael ei hymchwilio yn unol â’r Rheoliadau, o fewn 10 diwrnod gwaith.