Dyddiad yr Adroddiad

07/26/2022

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201784

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X bod oedi o 8 mis wedi bod cyn iddo gael ymateb i’w gŵyn i’r Bwrdd Iechyd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb eto, a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd. Yn lle ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi ymateb ffurfiol i Mr X erbyn 1 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.