Dyddiad yr Adroddiad

01/06/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202106325

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y driniaeth a dderbyniodd ei wraig wrth bractis meddyg teulu; hefyd bod y Bwrdd Iechyd heb ymateb hyd yma i’w gŵyn ffurfiol am hyn a wnaed ym mis Chwefror 2021.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi derbyn ymateb i’w bryderon hyd yma a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X erbyn 31 Ionawr 2022.

Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.