Dyddiad yr Adroddiad

06/07/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Tywyn

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202005528

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Aelod (“yr Achwynydd”) o Gyngor Tref Tywyn (“y Cyngor Tref”), bod Cyn Aelod o’r Cyngor Tref wedi methu â chadw at y Cod Ymddygiad i Aelodau.

Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi gwneud honiadau ffug am y Cyn Glerc ac Aelodau eraill o’r Cyngor Tref, ac wedi tanseilio a bychanu’r Cyn Glerc yng nghyfarfodydd y Cyngor Tref.  Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd ymddygiad honedig y Cyn-Aelod yn awgrymu methiant i ddangos parch ac ystyriaeth at eraill, ac ymddygiad bwlio ac aflonyddu, a oedd yn dwyn anfri ar y Cyn Aelod a’r Cyngor Tref.

Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth gan Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd (“y Cyngor”), y Cyngor Tref, tystion a’r Cyn Aelod. Yn ystod yr ymchwiliad gwnaed sawl ymgais i gael datganiad ffurfiol gan yr Achwynydd, ond ni fu llwyddiant. Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon o’r farn, er bod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo o’r Cyngor Tref yn ystod yr ymchwiliad, roedd y Cyn Aelod wedi parhau’n Aelod o’r Cyngor ac wedi sefyll i’w ailethol i’r Cyngor. Fodd bynnag, yn y pen draw, ni chafodd y Cyn Aelod ei ethol gan yr etholwyr lleol ac felly nid oedd bellach yn Aelod ar lefel Tref na Sir.

O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon bellach yn fodlon bod ymchwilio i’r gŵyn er budd y cyhoedd, a phenderfynwyd terfynu’r ymchwiliad.