Dyddiad yr Adroddiad

08/02/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

201906362

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr Aelod wedi diystyru egwyddor cydraddoldeb, drwy wneud sylwadau am nam ar glyw aelod arall a’i gwneud yn anodd yn fwriadol i’r aelod hwnnw gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(a) – rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal, beth bynnag fo’u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd.
  • 4(b) – rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
  • 4(c) – ni chaiff aelodau fwlio nac aflonyddu ar unrhyw berson.

Yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg y gallai’r Aelod fod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 6(1)(a) (rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod) a 6(2) o’r Cod Ymddygiad (rhaid i aelodau gydymffurfio ag unrhyw gais gan yr Ombwdsmon mewn cysylltiad ag ymchwiliad a gynhelir yn unol â’i bwerau statudol).

Cyfwelwyd pum tyst yn ystod yr ymchwiliad: roedd pob un yn aelodau o’r Cyngor.  Canfu’r ymchwiliad fod y dystiolaeth yn awgrymu bod yr Aelod wedi gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn aelod arall drwy wneud sylwadau gwahaniaethol am ei hanabledd yn ystod ac yn syth ar ôl cyfarfod o’r Cyngor ar 30 Hydref 2019, a thrwy ei gwneud yn anodd iddi gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor.  Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod paragraff 4(a) o’r Cod Ymddygiad wedi’i dorri’n ddifrifol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod sylwadau’r Aelod am anabledd yr aelod arall yn ymgais glir i’w dychryn a’i thanseilio.  Roedd o’r farn bod ymddygiad yr Aelod hefyd yn awgrymu bod paragraff 4(b) o’r Cod Ymddygiad wedi’i dorri.

Gwrthododd yr Aelod fod ei weithredoedd wedi torri’r Cod Ymddygiad, ond gwrthododd gael ei gyfweld er mwyn iddo allu rhoi cyfrif am y camau penodol y cwynwyd amdanynt.  Dywedodd yr aelod arall ei bod yn teimlo’n ofidus ac yn ofnus ar ôl y cyfarfod ar 30 Hydref.  Mae tystion hefyd wedi disgrifio’r aelod arall fel un a oedd yn amlwg wedi cynhyrfu yn ystod cyfarfodydd y Cyngor.  Ar y cyfan, rwyf o’r farn bod yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n awgrymu bod paragraff 4(c) o’r Cod Ymddygiad wedi’i dorri.  Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn y byddai’n rhesymol ystyried bod ymddygiad o’r fath yn gallu dwyn anfri ar swydd neu awdurdod yr Aelod ac felly’n awgrymu bod paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad wedi’i dorri.

Mewn perthynas â pharagraff 6(2) o’r Cod Ymddygiad, gwnaeth Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon geisiadau rhesymol a phriodol mewn cysylltiad â’r ymchwiliad hwn.  Cymerodd y Swyddog Ymchwilio gamau ychwanegol, gan achosi oedi yn y broses, i dawelu meddwl yr Aelod ac i’w helpu i deimlo’n gyfforddus gyda’r broses.  Cymerodd y Swyddog Ymchwilio gamau hefyd i wneud addasiadau rhesymol i roi cyfle i’r Aelod ymgysylltu’n llawn.  Fy marn i yw bod yr Aelod wedi methu’n fwriadol â chymryd rhan yn fy ymchwiliad er mwyn ceisio osgoi’r broses a bod ei weithredoedd yn awgrymu bod paragraff 6(2) o’r Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer dyfarniad gan dribiwnlys.

Daeth Panel Dyfarnu Cymru i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraffau 4(a), 4(b), 4(c), 6(1)(a) a 6(2) o’r Cod Ymddygiad a chafodd ei atal am 10 mis.  Argymhellodd hefyd y dylai’r Aelod ymgymryd â hyfforddiant pellach ar y Cod Ymddygiad, ymgymryd â hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a darparu ymddiheuriad ysgrifenedig llawn i’r Achwynydd.