Dyddiad yr Adroddiad

04/23/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Doc Penfro

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202000789

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Bwyllgor Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn Aelod o Gyngor Tref Doc Penfro (“y Cyngor”) wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cyngor.  Honnwyd bod yr Cyn Aelod wedi cyhoeddi neges ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol Facebook, y gellid ei ystyried yn hiliol ac  y gallai fod â’r potensial i niweidio enw da’r Cyngor.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Cyn Aelod wedi “hoffi” a “rhannu” y neges ar Facebook, a bod oedi byr wedi bod cyn iddo dynnu’r neges i lawr.  Canfu’r ymchwiliad fod y Cyn Aelod wedi camarwain papur newydd lleol drwy ddweud bod ei gyfrif Facebook wedi cael ei “hacio”, ond ei fod wedi cywiro hyn o fewn 48 awr.  Canfu hefyd fod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo fel aelod o’r Cyngor a’i fod wedi ei gyfweld gan Yr Heddlu, ac na chymerwyd unrhyw gamau pellach.

Dywedodd y Cyn Aelod nad oedd wedi sylwi ar yr islais hiliol pan rannodd y neges, ac nad oedd yn berson hiliol.  Ymddiheurodd am unrhyw drosedd y gallai fod wedi’i achosi.  Derbyniodd y Cyn Aelod ei fod wedi cael cyfle i fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad a fyddai wedi cynnwys hyfforddiant ar faterion cydraddoldeb.  Nid oedd wedi bod yn bresennol, yn rhannol oherwydd ei anabledd, ond derbyniodd nad oedd wedi gofyn am hyfforddiant mewn modd a oedd yn fwy hwylus iddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y gallai’r Cyn Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a) a 4(b), gan y gallai fod wedi methu â rhoi sylw dyledus i’r egwyddor o gyfle cyfartal i bawb wrth gyflawni ei ddyletswyddau, ac efallai na fyddai wedi dangos parch ac ystyriaeth ddyledus i eraill.  Canfu’r Ombwdsmon hefyd y byddai’n rhesymol ystyried gweithredoedd y Cyn Aelod fel ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd yr aelod, neu ar y Cyngor ei hun, a allai arwain at dorri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro fod y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Rhoddwyd cerydd i’r Cyn Aelod.