Dyddiad yr Adroddiad

10/05/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202002960

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Gwynedd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

Honnwyd bod yr Aelod wedi rhoi sylw homoffobig ar Facebook.  Nid oedd yr Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei rôl swyddogol fel aelod pan oedd yn postio’r sylw, felly, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod, sy’n dweud na ddylai aelodau ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.

Roedd yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn dangos bod gweithiwr newydd yr achwynydd wedi postio ar Facebook ym mis Hydref 2020, “meddwl fy mod i’n gweithio i’r bos gorau” ac wedi tagio’r achwynydd.  Atebodd yr Aelod, gan bostio o’i gyfrif Facebook personol, “Wyt ti’n sugno at dy fyw?”.

Cysylltwyd â’r gweithiwr fel rhan o ymchwiliad yr Ombwdsmon, fodd bynnag, ni roddodd ddatganiad tyst cyflawn i’r Ombwdsmon.  Cyflwynwyd y dystiolaeth a gasglwyd i’r Aelod a chafodd ei gyfweld fel rhan o’r ymchwiliad.  Yn ystod y cyfweliad, dywedodd nad oedd bwriad homoffobig y tu ôl i’w sylw ac, er ei fod yn derbyn wrth edrych yn ôl y gellid ystyried bod ei sylw’n homoffobig, dywedodd mai ei fwriad oedd tynnu sylw at ei farn fod y gweithiwr yn “llyfu” ei gyflogwr.

Er bod yr Ombwdsmon yn gwerthfawrogi pam yr oedd yr achwynydd ac eraill wedi dehongli’r sylw fel un homoffobig, nid oedd o’r farn bod esboniad yr Aelod yn gwbl annheilwng o ystyried bod “sugno” yn derm a ddefnyddir yn gyffredin i ddisgrifio ymddygiad sycoffantig.

Dywedodd yr Aelod ei fod yn difaru gwneud yr hyn a wnaeth a phe bai’n wynebu’r un amgylchiadau eto, ni fyddai’n gwneud sylw ar y neges ar Facebook.  Dywedodd hefyd ei fod yn fodlon ymddiheuro i’r achwynydd a’i weithiwr am eu tramgwyddo, ac fe’i hanogodd yr Ombwdsmon i wneud hynny.

Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater hwn.