Dyddiad yr Adroddiad

07/30/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202002418

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) a Chyngor Cymuned Llanilltud Faerdref (“y Cyngor Cymuned”) wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau (“y Cod”) wrth ddefnyddio’r term “Pikies” yn ystod trafodaeth grŵp WhatsApp gymunedol.

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd ymddygiad y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod. Yn ystod yr ymchwiliad, ymddiswyddodd yr Aelod o’r Cyngor a’r Cyngor Cymuned. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y grŵp WhatsApp cymunedol yn cynnwys aelodau o bwyllgor neuadd bentref ac ar adeg y drafodaeth nid oedd y Cyn Aelod yn gynrychiolydd Cyngor na Chyngor Cymuned ar y pwyllgor na’r grŵp WhatsApp. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyn Aelod yn gweithredu yn ei rôl gyhoeddus yn ystod y cyfnewid ac felly nid oedd paragraffau 4(a) a 4(b) o’r Cod yn berthnasol pan wnaeth y sylwadau yn ei swyddogaeth breifat, ac nid oedd y darpariaethau hyn yn y Cod i’w cymhwyso pan wnaeth y Cyn Aelod ei sylw ar WhatsApp.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn petai’r Cyn Aelod yn gynrychiolydd Cyngor neu Gyngor Cymuned, y gallai ei ymddygiad awgrymu ei fod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod. Fodd bynnag, ni chafodd yr Ombwdsmon ei ddarbwyllo bod cysylltiad digonol â rôl y Cyn Aelod i awgrymu y byddai’r sylw’n effeithio ar enw da swyddfa neu awdurdod y Cyn Aelod. O’r herwydd, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr ymddygiad yn awgrymu bod paragraff 6(1)(a) o’r Cod wedi’i dorri.