Dyddiad yr Adroddiad

02/22/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb

Cyfeirnod Achos

202101250

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gwynion bod aelod o Gyngor Sir Powys wedi torri’r Cod Ymddygiad.  Ni chafodd yr Aelod ei ailethol ym mis Mai 2022 (“y Cyn Aelod”).  Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi:

  • Datgelu gwybodaeth gyfrinachol.
  • Gwneud honiadau heb dystiolaeth i’w cefnogi i gynulleidfa eang.
  • Ymddwyn yn amhriodol yn ystod sesiwn gyfrinachol o gyfarfod llawn y Cyngor ar 15 Gorffennaf.
  • Gwneud gofynion afresymol.
  • Mynnu swm afresymol o amser a sylw swyddogion.
  • Gwneud cwynion blinderus a chwynion di-sail.
  • Defnyddio swm afresymol o adnoddau’r Cyngor.
  • Ymddwyn yn amhriodol yn ystod sesiwn gyfrinachol o gyfarfod llawn y Cyngor ar 15 Gorffennaf.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – dangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
  • 4(c) – peidio ag ymddwyn fel bwli neu harasio unrhyw berson.
  • (a) peidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth y byddai’n rhesymol ystyried ei bod o natur gyfrinachol, heb gydsyniad datganedig person a awdurdodwyd i roi cydsyniad o’r fath, neu onid yw’r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwneud hynny;
  • 6(1)(a) – peidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar ei swydd neu ar ei hawdurdod;
  • 6(1)(d) – peidio â gwneud cwynion blinderus, maleisus neu wacsaw yn erbyn aelodau eraill neu unrhyw un sy’n gweithio i’ch awdurdod neu ar ei ran.
  • 7(b) (i) – peidio â defnyddio, neu awdurdodi eraill i’w defnyddio, adnoddau ei hawdurdod yn annoeth.
  • 7(b)(iv) – peidio â defnyddio, neu awdurdodi eraill i’w defnyddio, adnoddau ei hawdurdod ac eithrio mewn dull a fwriedir i hwyluso neu i ffafrio cyflawni swyddogaethau’r awdurdod neu’r swydd yr ydych wedi eich ethol neu eich penodi iddo neu iddi;

Yn ystod yr ymchwiliad adolygwyd dogfennaeth a gwybodaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor a chafwyd tystiolaeth tystion gan uwch swyddogion y Cyngor, Aelodau etholedig y Cyngor ac aelod o’r cyhoedd.  Cafodd yr ymchwiliad hefyd gyfrif gan y Cyn-Aelod.

Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c), 5(a), 6(1)(a), 6(1)(d), 7(b)(i) a 7(b)(iv) o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru i’w dyfarnu gan dribiwnlys.

Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad bod y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 4(b), 4(c), 5(a), 6(1)(a) a 6(1)(d) o’r Cod Ymddygiad.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Tribiwnlys y dylai’r Cyn Aelod gael ei anghymhwyso am 18 mis rhag bod neu ddod yn aelod o’r awdurdod neu o unrhyw awdurdod perthnasol arall.