Dyddiad yr Adroddiad

08/25/2021

Achos yn Erbyn

Panel Apêl Derbyn - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn ac apeliadau

Cyfeirnod Achos

202103233

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Panel Apêl Derbyniadau ar gyfer Ysgol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Panel”) wedi methu â rhoi llythyr penderfyniad iddi yn dilyn apêl a gynhaliwyd mewn perthynas â’i mab ar 14 Gorffennaf 2021.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Panel wedi anfon ei lythyr penderfyniad at Mrs A, yn unol â’r Cod Apeliadau Derbyn i Ysgolion.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Panel i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs A am yr oedi ac i roi ei lythyr penderfyniad wedi’i lofnodi iddi, o fewn 5 diwrnod gwaith.