Dyddiad yr Adroddiad

08/25/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn ac apeliadau

Cyfeirnod Achos

202102072

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Mrs B bod y Panel Apeliadau Derbyn a Chyngor Bro Morgannwg, a oedd yn gweithredu fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgol yn ardal Bro Morgannwg, wedi methu ag ystyried a oedd ei phlentyn wedi cael ei leoli yn y categori priodol pan ddefnyddiwyd y meini prawf derbyn a phan glywyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Derbyn.

Ystyriodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon ac roedd yn bryderus nad oedd y Panel Apêl wedi dangos ei fod wedi ystyried rhan b o gam ffeithiol y prawf 1 dau gam yn briodol, ac a oedd yr awdurdod derbyn wedi defnyddio’r trefniant derbyn yn briodol yn yr achos hwn.

Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus bod gwybodaeth newydd, mewn perthynas â chymhwyso’r trefniadau, yn cael ei rhannu yng ngwrandawiad y Panel Apêl ond nad oedd wedi cael ei rhannu â chi o’r blaen.

Cytunodd y Cyngor y byddai’n cynnull panel newydd i ailwrando’r apêl yn yr achos hwn.