Dyddiad yr Adroddiad

01/19/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202104566

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr P na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro reoli atgyfeiriad niwroddatblygiadol yn briodol mewn perthynas â’i ferch, B. Roedd hefyd yn bryderus fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi digon o wybodaeth iddo ynglŷn â’r broses atgyfeirio a lle B ar y rhestr aros.

Wrth ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, dywedodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi cynnig apwyntiad am asesiad i B ac wedi dweud ei fod yn barod i roi mwy o fanylion i Mr P er mwyn datrys ei gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu llythyr at Mr P i fynd i’r afael â nifer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â gofal B fel y nodwyd gan yr Ombwdsmon ac i ymddiheuro am y cyfathrebu anghyson. Cytunodd i gyflwyno llythyr i’r Ombwdsmon i’w gymeradwyo o fewn 4 wythnos ac i gyhoeddi’r llythyr i Mr P o fewn 1 wythnos o dderbyn cymeradwyaeth. Yn seiliedig ar y camau uchod, ystyriodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn wedi’i setlo.