Dyddiad yr Adroddiad

01/21/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202105630

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X ar ran ei mam ynglŷn â chanfyddiadau Ymchwilydd Annibynnol a gynhaliodd Ymchwiliad Ffurfiol ar gŵyn a wnaed i Gyngor Sir Gâr am faterion amrywiol ynglŷn â’i diweddar
fam-gu.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Ymchwilydd Annibynnol wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw ddiffygion yn y cyfathrebu rhwng y Cyngor a Miss X o ran iechyd a lles ei mam-gu. I gefnogi ei chŵyn, darparodd Miss X dystiolaeth i gefnogi nad oedd ei mam wedi derbyn copïau o’r holl gyfathrebu ysgrifenedig a anfonwyd gan y Cyngor, a oedd wedi’u hanfon at fodryb Miss X yn unig. Canfu fod y dystiolaeth hon yn gwrth-ddweud canfyddiadau’r Ymchwilydd Annibynnol.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor ymddiheuro i Miss X a’i mam am ei fethiannau ac i roi iawndal o £250 iddi am yr amser a’r drafferth wrth orfod anfon cwyn a chytunodd y Cyngor i hynny.