Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202101300

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am nifer o agweddau ar ei chŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch hi a’i mam, Mrs Y. Er gwaethaf nifer o gwynion yn cael eu cadarnhau gan Ymchwilydd Annibynnol Cam 2 yr archwiliad, roedd Ms X yn dal i fod yn anfodlon ar ganlyniad yr archwiliad ac ymateb y Cyngor iddo.
Cwynodd Ms X am hyd yr amser yr oedd y Cyngor wedi’i dreulio yn archwilio ac yn ymateb i’w chŵyn, a dywedodd nad oedd yn unol â’i bolisi. Yn ogystal, cwynodd Ms X bod ei holl gwynion ynghylch hi ei hun fel gofalwr Mrs Y wedi cael eu cadarnhau, ond bod ymddiheuriad yn annigonol. Dywedodd ei bod hefyd yn anfodlon ar y ffordd y cafodd y cwynion am Mrs Y eu datrys, yn benodol, na wnaeth yr archwiliad Cam 2 gadarnhau ei phryder am y gofalwyr yn gyfrifol am ofal Mrs Y, a’i siom ynghylch canlyniad ei chŵyn am gynllun gofal Mrs Y. Dywedodd Ms X nad oedd agwedd ariannol ei chŵyn wedi cael ei harchwilio na’i chydnabod gan y Cyngor, a’i bod yn anfodlon yn hyn o beth. Dywedodd Ms X nad oedd yr archwiliad Cam 2 yn gallu rheoli mater o’r fath gan ei fod yn ymwneud â’r GIG; dywedodd mai’r broblem oedd nad oedd gweithiwr cymdeithasol wedi pasio’r mater ymlaen i’r GIG. Yn olaf, cwynodd Ms X am y ffaith mai dim ond yn rhannol y cafodd y gŵyn am y gwasanaeth cyfeillio ei chadarnhau; dywedodd na chynigiwyd y gwasanaeth hwn i Mrs Y nac i hithau er mwyn trefnu ar ran ei mam.
Cytunodd y Cyngor i gyflawni’r camau gweithredu canlynol i ddatrys cŵyn Ms X o fewn 20 diwrnod gwaith o benderfyniad yr Ombwdsmon:
• Rhoi diweddariad i Ms X am y camau gweithredu a roddwyd ar waith o ganlyniad i’w chŵyn.
• Cynnig taliad o £250 i Ms X i wneud yn iawn am yr amser oedd wedi mynd heibio o ran datrys ei chŵyn.
• Cyflwyno neges atgoffa i Staff Gofal Cymdeithasol yn unol ag argymhelliad yr Archwilydd Annibynnol y dylent beidio ag addo pethau ar ran staff y GIG.
• Dangos ei fod wedi atgoffa staff i sicrhau bod penderfyniadau yn dilyn atgyfeiriadau at wasanaethau trydydd sector yn cael eu rhannu, yn unol ag argymhelliad yr Archwilydd Annibynnol ynghylch y gŵyn am wasanaeth cyfeillio nas darparwyd, neu gynnal y cam gweithredu hwn i ddangos dysgu o’r gŵyn.
• Cyflwyno cŵyn Ms X am faterion ariannol i’w Dîm Cwynion Corfforaethol a gofyn iddo ei archwilio dan Weithdrefn Gwynion Corfforaethol y Cyngor.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod hi’n briodol mynd ar ôl datrysiad amgen i’r gŵyn yn hytrach na chynnal archwiliad drwy ddatrysiad cynnar o’r gŵyn ar sail y camau gweithredu yr oedd y Cyngor wedi’u rhoi ar waith a’r camau gweithredu yr oedd wedi cytuno i’w rhoi ar waith. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod hyn yn ddull cyfrannol a rhesymol o ddatrys y gŵyn.